1. Cyflwyniad
Mae’r polisi hwn yn amlinellu ymrwymiad AUDIAMA i reoli a diogelu data yn unol â Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018.
2. Diben
Mae’r polisi hwn yn rhoi canllawiau ar gasglu, prosesu, storio a dileu data personol, gan sicrhau bod hawliau unigolion yn cael eu parchu a bod eu data’n cael eu diogelu rhag mynediad heb awdurdod, colled neu ddifrod.
3. Cwmpas
Mae’r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr, gweithwyr llawrydd, contractwyr a chydweithredwyr AUDIAMA Productions Limited. Rhaid i bob parti gadw at y polisi wrth ymdrin â data personol sy’n gysylltiedig â gweithgareddau ein cwmni, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, wybodaeth am gleientiaid a chwsmeriaid, demograffeg y gynulleidfa a chofnodion gweithwyr.
4. Diffiniadau
4.1 Data personol
Unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â pherson naturiol a adnabuwyd neu y gellir ei adnabod.
4.2 Prosesu
Unrhyw weithrediad a gyflawnir ar ddata personol, megis casglu, cofnodi, storio, newid neu ddileu.
5. Egwyddorion
5.1 Cyfreithlondeb, tegwch a thryloywder
Bydd data’n cael eu prosesu’n gyfreithlon, yn deg ac yn dryloyw.
5.2 Cyfyngu ar ddibenion
Dim ond at ddibenion penodol, eglur a dilys y bydd data’n cael eu casglu.
5.3 Lleihau data
Dim ond data angenrheidiol fydd yn cael eu casglu a’u prosesu.
5.4 Cywirdeb
Bydd data’n gywir ac yn cael eu cadw’n gyfredol.
5.5 Cyfyngu ar storio
Ni fydd data’n cael eu storio am fwy o amser nag sy’n angenrheidiol.
5.6 Uniondeb a chyfrinachedd
Bydd data’n cael eu prosesu’n ddiogel, gan sicrhau eu bod wedi’u diogelu rhag mynediad heb awdurdod, colled neu ddifrod.
6. Casglu a defnyddio data
6.1 Cydsyniad
Dim ond gyda chydsyniad clir y byddwn yn casglu data personol. Mae gan unigolion yr hawl i dynnu eu cydsyniad yn ôl ar unrhyw adeg.
6.2 Diben
Caiff data personol eu casglu’n bennaf ar gyfer gweithrediadau busnes, ymgysylltu â’r gynulleidfa, marchnata a chydymffurfio â rheoliadau.
6.3 Plant
Nid yw AUDIAMA Productions Limited yn casglu data gan blant dan 16 oed yn fwriadol heb gydsyniad rhiant neu warcheidwad.
7. Mynediad at ddata a rhannu data
7.1 Mynediad mewnol
Dim ond staff sydd angen y data i gyflawni eu cyfrifoldebau swydd sy’n cael mynediad at ddata personol.
7.2 Rhannu’n allanol
Nid ydym yn rhannu data personol â thrydydd partïon oni bai bod hynny’n angenrheidiol ar gyfer gweithrediadau busnes neu’n ofynnol yn ôl y gyfraith. Bydd unrhyw drydydd parti sy’n cael mynediad at ein data yn cadw at safonau diogelu data llym.
8. Storio data a diogelwch
8.1 Storio
Caiff data eu storio mewn cronfeydd data diogel, wedi’u diogelu gan fesurau technegol cadarn.
8.2 Diogelwch
Mae AUDIAMA yn defnyddio waliau tân, amgryptio a rheolaethau mynediad diogel i ddiogelu data.
8.3 Tor diogelwch
Os bydd tor diogelwch data, rhoddir gwybod i’r rhai yr effeithir arnynt yn unol â gofynion rheoliadol, a chymerir camau ar unwaith i liniaru effaith y tor.
9. Hawliau unigolion
9.1 Mynediad
Mae gan unigolion yr hawl i ofyn am gael gweld eu data personol.
9.2 Cywiro
Gall unigolion ofyn i ddata anghywir neu anghyflawn gael eu cywiro.
9.3 Dileu
Mewn rhai amgylchiadau, gall unigolion ofyn i’w data gael eu dileu.
9.4 Cyfyngu
Gall unigolion ofyn am gyfyngiadau ar brosesu eu data.
9.5 Cludadwyedd
Mae gan unigolion yr hawl i ofyn am eu data mewn fformat strwythuredig, cyffredin, y gall peiriant ei ddarllen.
9.6 Gwrthwynebu
Mae gan unigolion yr hawl i wrthwynebu prosesu eu data, yn enwedig at ddibenion marchnata.
10. Cadw data
Rydym yn cadw data cyhyd ag y mae angen er mwyn cyflawni’r dibenion y cawsant eu casglu ar eu cyfer, neu i gydymffurfio â gofynion cyfreithiol. Ar ôl y cyfnod hwn, bydd data personol yn cael eu dileu’n ddiogel.
11. Cyfrifoldebau gweithwyr
Rhaid i holl weithwyr AUDIAMA gadw at y polisi hwn a’r canllawiau GDPR cysylltiedig, rhaid iddynt fynychu sesiynau hyfforddi ar ddiogelu data, a dylent roi gwybod i’r Swyddog Diogelu Data dynodedig am unrhyw achosion o dor diogelwch data neu bryderon.
12. Adolygu a chydymffurfio
12.1 Cydymffurfio
Mae gan AUDIAMA Swyddog Diogelu Data dynodedig sy’n gyfrifol am sicrhau cydymffurfiaeth â’r polisi hwn.
12.2 Adolygu
Caiff y polisi hwn ei adolygu bob blwyddyn, neu yn sgil newidiadau gweithredol neu ddeddfwriaethol sylweddol.
13. Cysylltu ac ymholiadau
Os oes gennych ymholiad am y polisi hwn, am hawliau data neu am unrhyw bryder cysylltiedig, cysylltwch â’n Swyddog Diogelu Data drwy e-bostio [email protected]
14. Cofrestru gyda’r ICO yn y DU
Mae AUDIAMA Productions Limited wedi’i gofrestru gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) yn y DU, a’i rif cofrestru yw ZB517747.
Adolygwyd Medi 2023