1. Cyflwyniad
Yn AUDIAMA, rydym yn credu bod lleisiau amrywiol yn creu straeon cyfoethocach. Rydym wedi ymrwymo i feithrin amgylchedd amrywiol a chynhwysol lle gall pob unigolyn, beth bynnag fo’i gefndir a’i wahaniaethau, ffynnu’n greadigol ac yn broffesiynol.
2. Diben
Nod y polisi hwn yw diffinio a llywio ein hymrwymiad i sicrhau amrywiaeth, tegwch a chynhwysiant ar bob lefel ac ym mhob rhan o’n cwmni. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu clywed a’u grymuso.
3. Cwmpas
Mae’r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr AUDIAMA Productions, gweithwyr llawrydd, contractwyr, ymwelwyr a chydweithredwyr.
4. Ein hymrwymiad
4.1 Cynrychiolaeth
Rydym yn ymdrechu i sicrhau cynrychiolaeth sy’n adlewyrchu amrywiaeth gyfoethog Caerdydd, Cymru a’r byd y tu hwnt. Mae hyn yn berthnasol nid yn unig i’n gweithlu ond hefyd i’r straeon rydym yn eu cynhyrchu a’r lleisiau rydym yn eu chwyddo.
4.2 Cyfle cyfartal
Mae pob penderfyniad cyflogaeth yn seiliedig ar deilyngdod, cymhwysedd ac anghenion busnes. Ni oddefir gwahaniaethu nac aflonyddu ar sail hil, rhywedd, oedran, anabledd, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol nac unrhyw nodwedd warchodedig arall.
4.3 Amgylchedd cynhwysol
Rydym yn ymrwymo i feithrin gweithle lle gall pawb fod yn driw iddynt eu hunain, a lle mae safbwyntiau gwahanol yn cael eu gwerthfawrogi.
5. Gweithredu
5.1 Recriwtio
Bydd hysbysebion swyddi’n cael eu rhannu’n eang er mwyn cyrraedd cynulleidfaoedd amrywiol. Bydd prosesau dethol yn rhydd o ragfarn, a bydd paneli cyfweld amrywiol yn cael eu defnyddio lle bo modd.
5.2 Hyfforddiant
Bydd pob aelod o staff yn cael hyfforddiant ar ragfarn ddiarwybod, ymwybyddiaeth ddiwylliannol ac arferion cynhwysol. Bydd gweithwyr newydd yn cael cyflwyniad i gynhwysiant ac amrywiaeth fel rhan o’u cyfnod sefydlu.
5.3 Adrodd straeon
Byddwn yn mynd ati i chwilio am straeon o gefndiroedd amrywiol a’u hyrwyddo, gan sicrhau tapestri cyfoethog o naratifau sy’n atseinio â chynulleidfa eang.
5.4 Partneriaethau
Byddwn yn cydweithio ag awduron, cyfarwyddwyr a sefydliadau amrywiol i gryfhau ein hethos cynhwysol.
6. Adrodd ac adborth
6.1 Y drefn adrodd
Gall gweithwyr roi gwybod am unrhyw achos o wahaniaethu neu ragfarn, naill ai’n uniongyrchol neu’n ddienw. Bydd pwyllgor diduedd yn ymdrin â phryderon, gan sicrhau cyfrinachedd a thegwch.
6.2 Adborth
Rydym yn annog trafodaeth agored ac yn croesawu awgrymiadau i wella ein harferion cynhwysiant ac amrywiaeth.
7. Cyfrifoldebau
7.1 Rheolwyr
Bydd yr arweinyddiaeth yn gosod y safon, gan sicrhau bod polisïau’n cael eu rhoi ar waith, ac yn adolygu’r cynnydd yn rheolaidd.
7.2 Swyddog Cynhwysiant ac Amrywiaeth
Bydd swyddog dynodedig yn goruchwylio’r gwaith o roi’r polisi ar waith, yn monitro mesurau amrywiaeth ac yn hwyluso hyfforddiant.
7.3 Gweithwyr
Mae pob aelod o staff yn gyfrifol am gynnal y polisi hwn, gan sicrhau amgylchedd parchus a chynhwysol i bawb.
8. Cydweithio ac allgymorth
Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol, sefydliadau addysgol a sefydliadau eraill yng Nghaerdydd a ledled Cymru i hyrwyddo amrywiaeth yn y celfyddydau a chreu cyfleoedd i unigolion o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.
9. Dathlu amrywiaeth
Drwy gydol y flwyddyn, byddwn yn dathlu diwylliannau, treftadaethau a digwyddiadau amrywiol, gan godi ymwybyddiaeth a gwerthfawrogiad o’r amrywiaeth gyfoethog o gefndiroedd sy’n rhan o’n tîm a’n cynulleidfa.
10. Gwella’n barhaus
Rydym yn cydnabod bod maes amrywiaeth a chynhwysiant yn esblygu. Rydym yn ymrwymo i adolygu a diweddaru’r polisi hwn yn rheolaidd, gan addasu i ddealltwriaeth newydd ac arferion gorau.
11. Casgliad
Rydym am i AUDIAMA fod yn oleufa i adrodd straeon yn ei ffurf fwyaf dilys. Drwy ein hymrwymiad i amrywiaeth a chynhwysiant, rydym yn sicrhau bod ein straeon yn atseinio’n gyffredinol ac yn ehangu gorwelion pawb.
Adolygwyd Mawrth 2023