1. Cyflwyniad
Yn AUDIAMA, mae iechyd a diogelwch ein gweithwyr, ein hymwelwyr a’n cydweithredwyr yn hollbwysig. Mae’r polisi hwn yn nodi ein hymrwymiad i greu a chynnal amgylchedd gwaith diogel ac iach i bawb, yn unol â’r safonau a osodwyd gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) a’r cyfreithiau perthnasol.
2. Cwmpas
Mae’r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr AUDIAMA Productions, contractwyr, ymwelwyr ac unrhyw un sy’n defnyddio ein hadeiladau neu’n rhan o’n gweithgareddau, gan gynnwys recordiadau oddi ar y safle.
3. Amcanion
Sicrhau amgylchedd diogel a di-risg yn ein stiwdios, ein swyddfeydd ac unrhyw fan gwaith arall. Nodi a lliniaru peryglon posibl a gwella ein mesurau iechyd a diogelwch yn barhaus. Meithrin diwylliant lle mae pryderon iechyd a diogelwch yn cael sylw’n brydlon.
4. Cyfrifoldebau
4.1 Rheolwyr
Bydd y rheolwyr yn darparu’r adnoddau, yr hyfforddiant a’r offer angenrheidiol i sicrhau iechyd a diogelwch pawb dan sylw.
4.2 Gweithwyr
Rhaid i holl weithwyr AUDIAMA gymryd cyfrifoldeb am eu hiechyd a’u diogelwch eu hunain ac am iechyd a diogelwch eu cydweithwyr. Mae hyn yn cynnwys dilyn gweithdrefnau, defnyddio offer yn briodol a rhoi gwybod am beryglon.
4.3 Swyddog Iechyd a Diogelwch
Bydd swyddog dynodedig yn cael ei benodi i fonitro cydymffurfiaeth â chyfreithiau iechyd a diogelwch, cynnal asesiadau risg rheolaidd a hyrwyddo ymwybyddiaeth o ddiogelwch.
5. Darpariaethau cyffredinol
5.1 Hyfforddiant
Bydd pob gweithiwr yn cael hyfforddiant iechyd a diogelwch sy’n berthnasol i’w rôl. Mae hyn yn cynnwys diogelwch tân, cymorth cyntaf a defnyddio offer yn gywir.
5.2 Offer
Bydd offer sy’n eiddo i AUDIAMA yn cael eu harchwilio’n rheolaidd i sicrhau eu bod yn ddiogel i’w defnyddio. Dylid rhoi gwybod am offer diffygiol ar unwaith a’u rhoi o’r neilltu i’w hatgyweirio neu i’w newid.
5.3 Adeiladau
Byddwn yn cynnal ein stiwdio a’n swyddfa i’r safon uchaf. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod allanfeydd brys yn glir, bod digon o olau a bod yr amgylchedd yn lân.
5.4 Cymorth cyntaf
Bydd bocs cymorth cyntaf ar gael ym mhob lleoliad recordio, a bydd swyddog cymorth cyntaf dynodedig ar y safle.
6. Darpariaethau penodol ar gyfer gwaith stiwdio
6.1 Lefelau sŵn
Rydym yn cydnabod y gall ein diwydiant olygu bod pobl yn agored i lefelau sŵn amrywiol. Bydd AUDIAMA yn sicrhau bod lefelau sain yn cael eu cadw o fewn terfynau diogel.
6.2 Diogelwch trydanol
Bydd pob darn o offer trydanol sy’n eiddo i AUDIAMA yn cael gwiriadau diogelwch rheolaidd. Dylid diogelu ceblau er mwyn atal peryglon baglu.
6.3 Ergonomeg
O ystyried yr oriau hir y gall staff eu treulio’n golygu neu’n recordio, bydd asesiadau ergonomig yn sicrhau bod gweithfannau yn swyddfa AUDIAMA wedi’u gosod i leihau straen ac anafiadau.
7. Rhoi gwybod am ddigwyddiadau ac ymateb iddynt
Rhaid rhoi gwybod i Swyddog Iechyd a Diogelwch y cwmni am bob digwyddiad, ni waeth pa mor fach. Bydd digwyddiadau’n cael eu cofnodi a’u hadolygu er mwyn penderfynu a oes angen unrhyw gamau ataliol.
8. Recordio oddi ar y safle
Ar gyfer recordiadau oddi ar y safle, bydd asesiad risg penodol yn cael ei gynnal. Bydd y rhagofalon angenrheidiol yn cael eu cymryd, gan gynnwys ystyried y tywydd, diogelwch y safle a diogelwch offer.
9. Ymwelwyr
Rhaid i ymwelwyr â safle cynhyrchu AUDIAMA roi gwybod i’r swyddog dynodedig eu bod wedi cyrraedd. Byddant yn cael canllawiau ar fesurau iechyd a diogelwch, a rhaid iddynt gadw atynt yn ystod eu hymweliad.
10. Gwella’n barhaus
Rydym yn croesawu adborth ac awgrymiadau am iechyd a diogelwch gan bob gweithiwr a gweithiwr llawrydd sy’n gweithio gyda ni. Bydd adolygiadau rheolaidd a hyfforddiant wedi’i ddiweddaru yn sicrhau bod ein mesurau iechyd a diogelwch yn parhau’n berthnasol ac yn effeithiol.
11. Adolygu’r polisi
Caiff y polisi hwn ei adolygu bob blwyddyn a’i ddiweddaru yn ôl yr angen i adlewyrchu newidiadau i ddeddfwriaeth, safonau’r diwydiant neu weithgareddau’r cwmni.
Adolygwyd Mawrth 2023