Yr holl bolisïau

Polisi Parhad Busnes

Adolygwyd
Mawrth 2023
Cyhoeddwyd gan
AUDIAMA Productions Limited

1. Diben

Mae Polisi Parhad Busnes AUDIAMA yn sicrhau, yn wyneb digwyddiadau annisgwyl, y gallwn barhau â’n gwaith heb fawr o darfu, gan gadw ein hymrwymiad i’n cynulleidfa, ein staff a’n rhanddeiliaid.

2. Cwmpas

Mae’r polisi hwn yn berthnasol i bob agwedd ar ein gwaith, o ysgrifennu sgriptiau a recordio i ôl-gynhyrchu a dosbarthu, a’i nod yw rhoi arweiniad os bydd amryw o fathau o darfu, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, fethiannau technegol, trychinebau naturiol ac argyfyngau iechyd y cyhoedd.

3. Amcanion

Diogelu ein pobl: sicrhau diogelwch a llesiant ein staff, ein hactorion a’r holl bersonél cysylltiedig. Diogelu ein hasedau: rhoi blaenoriaeth i ddiogelu ac adfer data ac adnoddau hanfodol. Tawelu meddwl rhanddeiliaid: cadw ymddiriedaeth ein cynulleidfa, ein partneriaid a’n buddsoddwyr drwy gyfathrebu’n amserol a chadw at ein hymrwymiadau o ran cyflwyno gwaith lle bynnag y bo’n ymarferol.

4. Asesu a rheoli risg

Rydym yn cynnal asesiad risg blynyddol i nodi bygythiadau a gwendidau posibl i’n gwaith. Mae’r broses hon yn ein helpu i nodi meysydd sydd angen adnoddau neu brosesau ychwanegol i liniaru effeithiau posibl.

5. Diogelu data ac asedau

Bob dydd, rydym yn gwneud copi wrth gefn o bob ased digidol, gan gynnwys ffeiliau sain, sgriptiau a data prosiectau, ar yriannau wedi’u hamgryptio. Anfonir copïau wrth gefn wythnosol at ddarparwr storio cwmwl oddi ar y safle er mwyn sicrhau bod copi ychwanegol ar gael bob amser. Rydym yn cadw rhestr o’n hoffer ac mae gennym drefniadau gyda chyflenwyr lleol i rentu neu brynu offer yn lle unrhyw eitemau sydd angen eu newid.

6. Safle cynhyrchu amgen

Os na fydd ein prif stiwdio ar gael, mae gennym femorandwm cyd-ddealltwriaeth gyda stiwdio sain arall yng Nghaerdydd i ddarparu cyfleusterau recordio ac ôl-gynhyrchu dros dro.

7. Strategaeth gyfathrebu

Rydym yn cydnabod bod cyfathrebu’n allweddol pan fydd tarfu ar ein gwaith. Mae hierarchaeth gyfathrebu fewnol yn sicrhau bod holl aelodau’r tîm yn cael gwybod yn brydlon am unrhyw darfu, ei oblygiadau a’r camau i’w dilyn ar unwaith. Os bydd tarfu sylweddol, byddwn yn rhoi gwybod i’n cynulleidfa a’n rhanddeiliaid am sefyllfa ein cynyrchiadau ac unrhyw oedi disgwyliedig drwy ein gwefan swyddogol, ein sianeli cyfryngau cymdeithasol a’n cylchlythyrau e-bost.

8. Rolau a chyfrifoldebau

Rydym wedi sefydlu tîm rheoli argyfwng (CMT) dynodedig, sy’n cynnwys Rheolwr Argyfwng sy’n goruchwylio’r ymateb cyffredinol ac yn cysylltu â rhanddeiliaid allanol, Pennaeth Gweithrediadau sy’n rheoli’r gwaith o barhau ac adfer prosesau cynhyrchu, Arweinydd Cyfathrebu sy’n ymdrin â chyfathrebu mewnol ac allanol, ac Arweinydd TG sy’n rheoli’r gwaith o adfer data ac yn sicrhau bod adnoddau technolegol ar gael.

9. Hyfforddiant ac ymarferion

Cynhelir sesiynau hyfforddi bob dwy flynedd i gyflwyno’r polisi i aelodau newydd o’r tîm ac i atgoffa’r aelodau presennol. Cynhelir ymarfer blynyddol sy’n efelychu sefyllfaoedd argyfwng posibl er mwyn profi pa mor gadarn yw ein cynlluniau parhad.

10. Adolygu a diweddaru

Bydd adborth o sesiynau hyfforddi, ymarferion a digwyddiadau go iawn yn cael ei ddefnyddio i fireinio a gwella’r polisi. Bob blwyddyn, bydd y CMT yn adolygu’r polisi i sicrhau ei fod yn effeithiol ac yn berthnasol, gan ystyried unrhyw newidiadau technolegol neu weithredol.

11. Casgliad

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu drama sain o safon uchel i’n cynulleidfa, beth bynnag a ddaw. Mae’r polisi hwn yn adlewyrchu ein dull rhagweithiol o ragweld heriau a sicrhau bod ein straeon yn parhau i gael eu hadrodd, hyd yn oed yn wyneb adfyd.

Adolygwyd Mawrth 2023

Yn ôl i’r holl bolisïau