Yr holl bolisïau

Cod Ymddygiad i Weithwyr

Adolygwyd
Gorffennaf 2023
Cyhoeddwyd gan
AUDIAMA Productions Limited

1. Cyflwyniad

Yn AUDIAMA, ein nod yw creu dramâu sain o’r safon uchaf gan gynnal amgylchedd o barch at ein gilydd a phroffesiynoldeb. Mae’r Cod Ymddygiad hwn yn gosod y safonau ymddygiad a ddisgwylir gan ein gweithwyr er mwyn sicrhau ein bod yn cynnal ein henw da.

2. Diben

Mae’r ddogfen hon yn amlinellu’r ymddygiad a’r safonau proffesiynol a ddisgwylir er mwyn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol a chydweithredol.

3. Cwmpas

Rhaid i bob gweithiwr, contractwr, gweithiwr llawrydd a chydweithredwr sy’n gysylltiedig ag AUDIAMA Productions Limited gadw at y Cod Ymddygiad hwn.

4. Proffesiynoldeb

Rhaid i weithwyr gynnal safon uchel o broffesiynoldeb, gan sicrhau bod eu gweithredoedd yn adlewyrchu’n dda ar AUDIAMA. Mae prydlondeb, diwydrwydd ac agwedd ragweithiol at gyfrifoldebau yn hollbwysig.

5. Parch a thriniaeth deg

Ni oddefir gwahaniaethu, bwlio, aflonyddu nac unrhyw fath arall o gam-drin. Dylai pawb gael eu trin â pharch, beth bynnag fo’u swydd, eu cefndir neu eu cyfraniad.

6. Cyfathrebu

Mae cyfathrebu clir, cryno a pharchus yn hanfodol. Dylai adborth fod yn adeiladol, gyda’r nod o gydweithio a datblygu.

7. Cyfrinachedd

Rhaid cadw pob gwybodaeth berchnogol, sgriptiau, cynnwys heb ei ryddhau a strategaethau busnes yn gyfrinachol oni roddir caniatâd penodol i’w datgelu. Dylid parchu a diogelu gwybodaeth bersonol cydweithwyr a’r bobl rydym yn cydweithio â nhw hefyd.

8. Defnyddio asedau’r cwmni

Dylid defnyddio asedau’r cwmni, gan gynnwys offer recordio, meddalwedd ac adeiladau, yn gyfrifol a dim ond ar gyfer gweithgareddau sy’n ymwneud â’r cwmni. Gall colli, difrodi neu gamddefnyddio asedau’r cwmni arwain at gamau disgyblu.

9. Gwrthdaro buddiannau

Dylid osgoi unrhyw sefyllfa a allai greu gwrthdaro rhwng buddiannau personol a buddiannau AUDIAMA. Rhaid i weithwyr ddatgelu unrhyw wrthdaro buddiannau posibl i’w goruchwylwyr.

10. Iechyd a diogelwch

Mae gan AUDIAMA bolisi iechyd a diogelwch cyhoeddedig. Rhaid i weithwyr ddilyn pob protocol diogelwch, yn enwedig wrth ddefnyddio offer trydanol ac offer sain. Dylid rhoi gwybod i’r rheolwyr ar unwaith am unrhyw beryglon neu bryderon diogelwch.

11. Camddefnyddio sylweddau

Ni chaiff gweithwyr fod dan ddylanwad alcohol, cyffuriau anghyfreithlon nac unrhyw sylwedd meddwol arall wrth weithio. Dylid rhoi gwybod am broblemau camddefnyddio sylweddau, ac anogir y rhai yr effeithir arnynt i geisio cymorth.

12. Cydweithio a gwaith tîm

Gwaith tîm yw sylfaen ein proses greadigol. Mae cydweithredu a chyfraniadau cadarnhaol at ddeinameg y tîm yn hanfodol. Dylid ymdrin â gwahaniaethau barn mewn ffordd barchus, gan ganolbwyntio ar les gorau’r prosiect.

13. Cynrychioli’r cwmni

Wrth gynrychioli AUDIAMA Productions Limited, boed mewn digwyddiadau neu ar-lein, dylai gweithwyr gyflwyno eu hunain mewn ffordd sy’n adlewyrchu’n gadarnhaol ar y cwmni. Dylai unrhyw ddatganiadau cyhoeddus am y cwmni gyd-fynd â’n gwerthoedd a chael eu cymeradwyo gan y rheolwyr.

14. Cydymffurfio â’r gyfraith

Rhaid i weithwyr gydymffurfio â phob cyfraith a rheoliad perthnasol, yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Nid yw anwybodaeth o’r gyfraith yn esgus, ac ni chaiff ei derbyn fel amddiffyniad am gamymddwyn.

15. Rhoi gwybod am bryderon

Anogir gweithwyr i roi gwybod i’w goruchwylwyr neu i’r adran Adnoddau Dynol am unrhyw achos o dorri’r cod hwn neu am bryderon eraill. Mae chwythwyr chwiban yn cael eu diogelu, ac ni oddefir dial yn erbyn y rhai sy’n rhoi gwybod am achosion o dorri’r cod.

16. Canlyniadau torri’r cod

Gall torri’r cod hwn arwain at gamau disgyblu, o rybuddion llafar hyd at derfynu cyflogaeth. Gall achosion difrifol arwain at gamau cyfreithiol.

17. Casgliad

Caiff y Cod Ymddygiad hwn ei adolygu bob blwyddyn. Byddwn yn ymgynghori â gweithwyr ac yn rhoi gwybod iddynt am newidiadau sylweddol. Mae AUDIAMA yn falch o’i uniondeb, ei greadigrwydd a’i ymrwymiad i ragoriaeth. Drwy gadw at y Cod Ymddygiad hwn, rydym yn sicrhau amgylchedd gwaith cytûn lle mae creadigrwydd yn ffynnu a phawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi. Os oes gennych unrhyw gwestiwn neu os hoffech gael eglurhad, cysylltwch â’n hadran Adnoddau Dynol drwy e-bostio [email protected]

Adolygwyd Gorffennaf 2023

Yn ôl i’r holl bolisïau