Yr holl bolisïau

Polisi Cyfle Cyfartal

Adolygwyd
Gorffennaf 2025
Cyhoeddwyd gan
AUDIAMA Productions Limited

1. Cyflwyniad

Mae AUDIAMA yn credu mewn meithrin diwylliant o barch, tegwch a chydraddoldeb. Nod y polisi hwn yw sicrhau bod pob unigolyn, beth bynnag fo’i wahaniaethau, yn cael cyfle cyfartal yn ein cwmni, a’i fod yn rhydd rhag gwahaniaethu.

2. Diben

Mae’r polisi hwn yn amlinellu ein hymrwymiad i greu amgylchedd gwaith cynhwysol lle mae pawb yn cael eu trin yn gyfartal ac yn cael yr un cyfleoedd i lwyddo, beth bynnag fo’u cefndir.

3. Cwmpas

Mae’r polisi hwn yn berthnasol i bob gweithiwr, gweithiwr llawrydd, contractwr, intern, gwirfoddolwr a chydweithredwr sy’n gysylltiedig ag AUDIAMA.

4. Diffiniadau allweddol

4.1 Cyfle cyfartal

Sefyllfa lle nad oes unrhyw fath o wahaniaethu, a lle mae gan bawb yr un cyfle i ddatblygu, i symud ymlaen ac i gael eu gwobrwyo.

4.2 Gwahaniaethu

Triniaeth annheg sy’n deillio o ragfarn. Gall fod yn uniongyrchol (amlwg) neu’n anuniongyrchol (llai amlwg, ond yn creu rhwystrau annheg).

5. Ymrwymiad

Mae AUDIAMA Productions Limited wedi ymrwymo i hyrwyddo cyfle cyfartal ym mhob rhan o’n gwaith, gan sicrhau bod ein gweithlu’n adlewyrchu amrywiaeth y cymunedau rydym yn gweithio yn eu plith, a chreu amgylchedd lle mae gwahaniaethau a chyfraniadau unigolion yn cael eu cydnabod a’u gwerthfawrogi.

6. Gwahaniaethu

Nid ydym yn goddef gwahaniaethu ar sail oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw na chyfeiriadedd rhywiol.

7. Recriwtio a dethol

Mae swyddi gwag yn agored i bob ymgeisydd cymwys. Gwneir penderfyniadau dethol ar sail sgiliau, cymwysterau a phrofiad. Rydym yn sicrhau bod ein hysbysebion recriwtio a’n manylebau swyddi yn gwbl anwahaniaethol. Lle bo modd, bydd paneli cyfweld yn adlewyrchu amrywiaeth.

8. Hyfforddiant a datblygu

Mae gan bob gweithiwr fynediad cyfartal at hyfforddiant a chyfleoedd datblygu gyrfa eraill. Mae AUDIAMA yn cydnabod manteision gweithlu amrywiol a bydd yn darparu hyfforddiant amrywiaeth i’r holl staff.

9. Dyrchafu a symud ymlaen

Mae dyrchafiadau yn AUDIAMA yn seiliedig ar deilyngdod yn unig. Mae gan weithwyr gyfleoedd cyfartal i symud ymlaen, gan gydnabod eu sgiliau, eu profiad a’u potensial.

10. Amgylchedd gwaith

Mae gan bob aelod o staff, pob cydweithredwr a phob ymwelydd yr hawl i amgylchedd gwaith sy’n rhydd rhag aflonyddu, bwlio neu erledigaeth. Bydd unrhyw iaith neu ymddygiad gwahaniaethol yn arwain at gamau disgyblu, a gallai hynny gynnwys diswyddo.

11. Rhoi gwybod am bryderon a mynd i’r afael â nhw

Dylai gweithwyr sy’n credu eu bod wedi dioddef unrhyw fath o wahaniaethu roi gwybod i’w goruchwyliwr am y mater, neu’n uniongyrchol i’r adran Adnoddau Dynol. Bydd pob cwyn yn cael ei thrin yn gwbl gyfrinachol ac fel mater o frys. Ni oddefir dial yn erbyn unigolion am roi gwybod am wahaniaethu nac am helpu gydag ymchwiliadau.

12. Anableddau

Mae AUDIAMA Productions Limited wedi ymrwymo i ddiwallu anghenion gweithwyr anabl a bydd yn gwneud addasiadau rhesymol lle bynnag y bo angen. Rydym yn mynd ati i hyrwyddo amgylchedd cynhwysol lle gall pob gweithiwr ffynnu.

13. Cyfrifoldeb

13.1 Rheolwyr

Sicrhau bod y polisi hwn yn cael ei roi ar waith a’i adolygu’n rheolaidd, a bod staff yn ymwybodol ohono ac yn cadw at ei ddarpariaethau.

13.2 Gweithwyr

Mae holl aelodau AUDIAMA yn gyfrifol am barchu’r polisi hwn a chadw ato.

14. Casgliad

Caiff y Polisi Cyfle Cyfartal hwn ei adolygu bob blwyddyn i sicrhau ei fod yn effeithiol. Rhoddir gwybod i weithwyr am unrhyw newidiadau sylweddol. Mae AUDIAMA wedi ymrwymo i gynnal yr egwyddorion a nodir yn y polisi hwn. Os oes gennych unrhyw ymholiad am y polisi hwn, neu os hoffech roi gwybod am unrhyw anghysondeb, cysylltwch â’n hadran Adnoddau Dynol drwy e-bostio [email protected]

Adolygwyd Gorffennaf 2025

Yn ôl i’r holl bolisïau